Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cysylltwch â ni..

Gwaed Ifanc

Gall eich gwaed gael effaith fawr

Mae bywydau'n cael eu hachub bob dydd yng Nghymru, diolch i roddwyr gwaed. O ddioddefwyr damweiniau i gleifion canser, mae rhoddion gwaed a bôn-gelloedd yn bwysig dros ben.

Mae angen i'r genhedlaeth nesaf ddod ymlaen a gwneud gwahaniaeth.

Dim ond tri y cant o'r boblogaeth gymwys sy'n rhoi gwaed, ac mae llai na 15 y cant o'r rheini o dan 30 oed. Gadewch i ni newid hynny gyda'n gilydd.

A allai eich ysgol neu goleg helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o achubwyr bywydau?

 

Tair ffordd y gall eich ysgol achub bywydau

1. Cynnal ymgyrch casglu swabiau i recriwtio pobl i’r panel bôn-gelloedd

Ymgyrchoedd casglu swabiau ydy’r ffordd hawsaf a chyflymaf o gymryd rhan. Maen nhw wedi’u dylunio i recriwtio gwirfoddolwyr rhwng 16 a 30 oed, neu 16 a 45 oed o grwpiau Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig, i roi eu henw ar y gofrestr bôn-gelloedd, i helpu cleifion canser sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Maen nhw angen llai o le ac offer na sesiwn rhoi gwaed, gan eu gwneud yn addas ar gyfer ysgolion a cholegau o bob siâp a maint.

Hyd yn hyn, mae mwy nag 800 o bobl ifanc wedi ymuno â'r gofrestr bôn-gelloedd drwy ymgyrchoedd casglu swabiau ysgolion.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnal ymgyrch, cysylltwch â ni.

 

2. Cynnal sesiwn rhoi gwaed

Y ffordd fwyaf effeithiol o ymgysylltu â chenhedlaeth newydd o roddwyr gwaed ar gyfer ysgolion a cholegau mawr sydd ag o leiaf 200 o fyfyrwyr 'ôl-16', ydy drwy gynnal sesiwn rhoi gwaed yn yr adeilad yn ystod y dydd. Rydym yn gweithio gyda sawl ysgol a choleg ar draws y wlad yn barod, sydd wedi arwain at bron i 5,000 o roddion.

I gael gwybod mwy am y broses, cysylltwch â ni..

 

3. Lledaenu'r neges

Mae cymaint o ffyrdd o wneud gwahaniaeth sy'n achub bywydau i gleifion mewn angen ar draws Cymru. Gallwch ein helpu i ledaenu'r gair drwy floeddio ynghylch y pwysigrwydd o roi gwaed.

Dyma rywfaint o’r ffyrdd syml y gallwch chi ledaenu'r neges, a hyrwyddo sesiynau cymunedol lleol yn eich ardal:

  • Poster arddangos
  • Cyhoeddi hysbysiadau drwy gylchlythyrau rhieni
  • Postio ar fewnrwyd eich staff

I wneud hyn mor hawdd â phosibl, lawrlwythwch yr adnoddau isod:

Mae rhai o'r ysgolion yn ein cefnogi yn barod

Ysgol Stanwell School

Mae Ysgol Stanwell yn Ne Cymru wedi bod yn cefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru ers 2015. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae myfyrwyr a staff y Chweched Dosbarth wedi achub hyd at 3,000 o fywydau gyda'i gilydd!

Mae mwy na 120 o fyfyrwyr hefyd wedi ymuno â'r gofrestr bôn-gelloedd ac yn sgil hynny, gwella'r siawns o ddod o hyd i rywun sy’n cydweddu ar gyfer y miloedd o gleifion canser sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn.

Dywedodd Sue Adams, Cydlynydd Chweched Dosbarth Ysgol Stanwell: “Mae’r sesiynau rhoi gwaed rydyn ni’n eu cynnal yn Stanwell yn uchafbwynt yng nghalendr yr ysgol bob amser, i fyfyrwyr a staff.

“Mae’n bwysig dros ben i ni fel ysgol ein bod ni’n annog pobl ifanc i ddod yn rhoddwyr gwaed ac achub bywydau, er mwyn gwneud gwahaniaeth i’n cymuned ac i gleifion mewn angen.”

Ysgol Uwchradd Prestatyn

Cynhaliodd Ysgol Uwchradd Prestatyn yng Ngogledd Cymru ei sesiwn rhoi gwaed gyntaf ym mis Hydref 2024, ac mae hi’n edrych ymlaen yn barod at yr un nesaf.

Dywedodd Kirsty Garside, Pennaeth Astudiaethau Cymdeithasol yn Ysgol Uwchradd Prestatyn: “Rydym wedi bod eisiau cefnogi menter sy’n annog ‘rhoi gwaed’ ers cryn amser, ac roedd cefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru drwy gynnal ein sesiwn rhoi gwaed gyntaf yn teimlo fel y ffordd berffaith o wneud hynny.

“Roedd yn galonogol gweld cynifer o’n myfyrwyr yn camu ‘mlaen i roi gwaed am y tro cyntaf ac yn ymuno â’r gofrestr bôn-gelloedd, yn ogystal â’r balchder yr oeddent yn ei deimlo wedyn. Rydym wrth ein bodd yn cefnogi’r ymgyrch Gwaed Ifanc ac yn annog pob ysgol uwchradd a lleoliad addysg bellach yng Nghymru i'w chefnogi.”

Ysgol Gymunedol Tonyrefail

Mae'r daith i drefnu sesiwn rhoi gwaed yn Ysgol Gymunedol Tonyrefail wedi cymryd mwy na 25 mlynedd i’r person y tu ôl iddi, sef Shula Gunter, sydd wedi bod yn gweithio fel athrawes Mathemateg yn yr ysgol am fwy na tri deg mlynedd.

Ym 1999, roedd Shula, ei gŵr, a thri arall mewn damwain car erchyll. Shula oedd yr unig un a oroesodd, ac roedd hi angen 28 uned o waed i achub ei bywyd.

Roedd Shula yn rhoddwr gwaed ei hun cyn y ddamwain, ond nid yw hi bellach yn gallu rhoi gwaed oherwydd ei bod hi wedi cael trallwysiadau. Yn lle hynny, mae hi wedi sianelu ei hymdrechion i helpu ac annog pobl ifanc i roi gwaed, yn gyntaf gyda’r Clwb Ffermwyr Ifanc a nawr, yn Ysgol Gymunedol Tonyrefail.

Darllenwch stori Shula yma.

 

Bagloriaeth Cymru

Yn galw ar bob athro a myfyriwr!

Helpwch eraill i ddarganfod pam ei bod hi mor bwysig rhoi gwaed drwy ein her Bagloriaeth Cymru newydd,ac annog mwy o rrodwyr 17-34 oed i ddod ymlaen.